Lyrics

Unigolion oll
Ga i eich sylw os gwelwch yn dda?
Chi yn y blaen, chi yn y cefn
Chi ar y chwith, chi ar y dde
A chwi oll yn y canol
Beth yw ein polisi ar gyfer pleser?
Gawn ni derfyn ar drafod ein holl ddiffygion
A chymryd mantais ar y cyfle i gofleidio ein cyd-ddyn?
Nid yw Cymru ar werth, nid yw Cymru ar werth, nid yw Cymru ar werth x2
Penderfyniadau pwyllgorau pwyllog
Sy'n atgyfnerthu goruchafiaeth ffiadd y farchnad
Sy'n rhydd i neud be a fyno
Brandi a coke i fynd gyda dy frand di?
Fi 'di blino ar fod yn flin
Â'r unigolyddiaeth di-chwaeth
Sy'n creu problem mas o'r gwahaniaeth
Y gwahaniaeth gogoneddus sydd i'w ddathlu ym mhob man
Yr haenau'n cynyddu wrth i ni fynd yn ein blaenau
A'r oll y'n ni gyd eisiau gwbod yn sicr
Yr unig beth sy'n bwysig
Yw cariad
Nid yw Cymru ar werth, nid yw Cymru ar werth, nid yw Cymru ar werth x2
Written by: Gwenno, Rhys Edwards
instagramSharePathic_arrow_out