Şarkı sözleri

Bûm yn dy garu lawer gwaith Do lawer awr mewn mwynder maith Bûm yn dy gusanu Lisa gêl Yr oedd dy gwmni'n well na'r mêl. Fy nghangen lân, fy nghowlad glyd Tydi yw'r lanaf yn y byd Tydi sy'n peri poen a chri A thi sy'n dwyn fy mywyd i. Pan fyddai'n rhodio gyda'r dydd Fy nghalon fach sy'n mynd yn brudd Wrth glywed sŵn yr adar mân Daw hiraeth mawr am Lisa Lân. Pan fyddai'n rhodio gyda'r hwyr Fy nghalon fach a dôdd fel cwyr Wrth glywed sŵn yr adar mân Daw hiraeth mawr am Lisa lân. Lisa, a ddoi di i'm danfon i I roi fy nghorff mewn daear ddu? Gobeithio doi di, f'annwyl ffrind Hyd lan y bedd, lle'r wyf yn mynd. Hiraeth mawr am Lisa Lân. Hiraeth mawr am Lisa Lân.
Writer(s): Trad, Richard Spencer David James Lyrics powered by www.musixmatch.com
instagramSharePathic_arrow_out